Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Grŵp Trawsbleidiol Gogledd Cymru Cynhaliwyd dros Teams ar 1 Rhagfyr 2023, 14:30 i 14:40
Aelodau o’r Senedd oedd yn bresennol: Mark Isherwood (Cadeirydd), Carolyn Thomas (Is-gadeirydd), Sam Rowlands
Anfonodd Rhun ap Iorwerth a Darren Millar eu pleidleisiau dros e-bost cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. |
|
Swyddogion CLlLC: Lucy Sweet (Ysgrifennydd y Grŵp)
Camau y Cytunwyd Arnynt:
· Ysgrifennydd y Grŵp i gysylltu â Mabon ap Gwynfor i’w hysbysu ei fod wedi cael ei ailethol yn Is-gadeirydd y Grŵp, oni bai ei fod yn dymuno peidio â pharhau yn y rôl.
Ethol Cadeirydd
Dywedodd Lucy Sweet, Ysgrifennydd y Grŵp, wrth Aelodau o’r Senedd a oedd yn bresennol fod Rhun ap Iorwerth AS a Darren Millar wedi enwebu Mark Isherwood AS yn Gadeirydd, a gofynnodd a allai’r ddau gefnogi’r enwebiad hwn.
Cytunodd Sam Rowlands a Carolyn Thomas i ethol Mark Isherwood yn Gadeirydd.
Ethol Is-gadeiryddion
Gofynnodd Mark Isherwood AS, Cadeirydd y Grŵp, i Aelodau o’r Senedd a oedd yn bresennol a oeddynt yn fodlon parhau i gael Is-gadeiryddion, a chytunodd Sam Rowlands AS a Carolyn Thomas AS.
Cadarnhaodd Carolyn Thomas AS ei bod eisiau parhau yn y rôl, a chymeradwywyd hyn gan Mark Isherwood AS a Sam Rowlands AS.
Nid oedd Mabon ap Gwynfor yn bresennol, ond awgrymodd Sam Rowlands AS ei ethol i barhau’n Is-gadeirydd, a’i hysbysu. Bydd Ysgrifennydd y Grŵp yn cysylltu â Mabon i roi gwybod iddo a chadarnhau ei fod yn fodlon parhau yn y rôl.
Ethol Ysgrifennydd
Enwebwyd Lucy Sweet gan Carolyn Thomas AS i barhau’n Ysgrifennydd y Grŵp. Cefnogwyd yr enwebiad hwn gan Sam Rowlands AS a Mark Isherwood AS.
Nodwyd mai dros dro’n unig y bydd hyn, gan y bydd Luke Nicholas (CLlLC) yn ymgymryd â’r rôl yn y flwyddyn newydd.
Gofynnodd Sam Rowlands am gael cynnwys gair o ddiolch i Lucy am ei gwaith yn y cofnodion.